top of page

TinyExplorer ar Waith: Ar gyfer Rhieni ac Ymarferwyr

1I4A5184.jpg

Am beth mae'r astudiaeth hon?

Rydym yn archwilio a ellid defnyddio technoleg camerâu pen, fel yr un a ddefnyddiwyd yn ein hastudiaeth TinyExplorer (darganfyddwch fwy o wybodaeth yma), i ddeall a chefnogi profiadau dydd i ddydd plant ifanc â syndrom Down yn well - o safbwyntiau clinigol a rhieni.

​

Mae ein camerâu pen gwisgadwy, a ddatblygwyd ar gyfer astudiaeth TinyExplorer, yn cofnodi persbectif y plentyn wrth iddo ryngweithio â'r byd o'i gwmpas. Mae'r astudiaeth hon yn gwbl anghysbell, ac wedi'i chynllunio i'w chwblhau o gartref. Gall gynnig cipolwg gwerthfawr ar sut mae plant ifanc â syndrom Down yn rhyngweithio â’u hamgylchedd, ac yn llywio’r math o gymorth y gallai fod ei angen arnynt.

Beth mae'r astudiaeth hon yn ei gynnwys?

Mae’r astudiaeth hon gwbl o bell ac yn cynnwys tair cam syml. Rydym ni’n barod wedi cwblhau'r cyfweliadau cychwynnol gydag ymarferwyr, ond rydym yn chwilio bellach am ymarferwyr i ymuno’r astudiaeth a rhannu ei safbwyntiau. Byddwn yn rhoi fideo byr i chi am y camerâu pen i'w wylio, yna gofynnir i chi gwblhau dau holiadur byr (5-10 munud) ar-lein, tua 1 mis ar wahân. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich clywed eich barn am fanteision a heriau posib defnyddio’r dechnoleg hon.

2

Cwblhau holiadur byr ar-lein.

1

Gwylio fideo byr am y camerau-pen.

3

Cwblhau ail holiadur byr ar-lein, 1 mis yn ddiweddarach.

1I4A5358.jpg

Am bwy rydyn ni'n chwilio?

Rydym yn chwilio am safbwyntiau meddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (gan gynnwys: seicolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, nyrsys) sydd wedi gweithio gydag o leiaf un plentyn â syndrom Down, o dan 5 oed, yn ystod eu gyrfa. Byddai eich mewnwelediadau yn hynod werthfawr i'n hymchwil.​

Yn y dyfodol agos, byddwn yn cynnal astudiaeth gyfochrog yn gofyn am farn rhieni sydd â phlant â syndrom Down o dan 8 oed. Anfonwch e-bost at babylab@cardiff.ac.uk am ragor o wybodaeth.

bottom of page